Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 1:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin.

16. Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin, a rhoi llysiau iddynt.

17. Rhoddodd Duw i'r pedwar bachgen wybod a deall pob math o lenyddiaeth a gwyddor; a chafodd Daniel y gallu i ddatrys pob gweledigaeth a breuddwyd.

18. Pan ddaeth yr amser a benodwyd gan y brenin i'w dwyn i'r llys, cyflwynodd y prif swyddog hwy i Nebuchadnesar.

19. Ar ôl i'r brenin siarad â hwy, ni chafwyd neb yn eu mysg fel Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; felly daethant hwy yn weision i'r brenin.

20. A phan fyddai'r brenin yn eu holi ar unrhyw fater o ddoethineb a deall, byddai'n eu cael ddengwaith yn well na holl ddewiniaid a swynwyr ei deyrnas.

21. A bu Daniel yno hyd flwyddyn gyntaf y Brenin Cyrus.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 1