Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 7:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad,ac yntau'n fy chwennych.

11. Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes,a threulio'r nos ymysg y llwyni henna.

12. Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd,i edrych a yw'r winwydden yn blaguro,a'i blodau yn agor,a'r pomgranadau yn blodeuo;yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat.

13. Y mae'r mandragorau yn gwasgar eu harogl;o gwmpas ein drws ceir yr holl ffrwythau gorau,ffrwythau newydd a hena gedwais i ti, fy nghariad.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 7