Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 7:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau. O ferch y tywysog!Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemauo waith crefftwr medrus.

2. Y mae dy fogail fel ffiol gronnad yw byth yn brin o win cymysg;y mae dy fol fel pentwr o wenithwedi ei amgylchynu gan lilïau.

3. Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,gefeilliaid ewig.

4. Y mae dy wddf fel tŵr ifori,a'th lygaid fel y llynnoedd yn Hesbon,ger mynedfa Bath-rabbim;y mae dy drwyn fel tŵr Lebanon,sy'n edrych i gyfeiriad Damascus.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 7