1. Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau. O ferch y tywysog!Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemauo waith crefftwr medrus.
2. Y mae dy fogail fel ffiol gronnad yw byth yn brin o win cymysg;y mae dy fol fel pentwr o wenithwedi ei amgylchynu gan lilïau.
3. Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,gefeilliaid ewig.
4. Y mae dy wddf fel tŵr ifori,a'th lygaid fel y llynnoedd yn Hesbon,ger mynedfa Bath-rabbim;y mae dy drwyn fel tŵr Lebanon,sy'n edrych i gyfeiriad Damascus.
5. Y mae dy ben yn ymddangos fel Carmela gwallt dy ben fel porffor,a brenin wedi ei garcharu yn y plethi.
6. Mor brydferth, mor hardd wyt,fy anwylyd, y fwyaf dymunol.
7. Y mae dy gorff fel palmwydden,a'th fronnau fel clwstwr o'i ffrwythau.
8. Dywedais, “Dringaf y balmwydden,a gafael yn ei brigau.”Bydded dy fronnau fel clwstwr o rawnwin,ac arogl dy anadl fel afalau,
9. a'th wefusau fel y gwin gorauyn llifo'n esmwyth mewn cariad,ac yn llithro rhwng gwefusau a dannedd.
10. Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad,ac yntau'n fy chwennych.