Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 5:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Pan roes fy nghariad ei law ar y glicied,yr oeddwn wedi fy nghynhyrfu trwof.

5. Codais i agor i'm cariad,ac yr oedd fy nwylo'n diferu o fyrr,a'r myrr o'm bysedd yn llifo ar ddolennau'r clo.

6. Pan agorais i'm cariad,yr oedd wedi cilio a mynd ymaith,ac yr oeddwn yn drist am ei fod wedi mynd;chwiliais amdano, ond heb ei gael;gelwais arno, ond nid oedd yn ateb.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 5