Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 4:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Fy chwaer a'm priodferch, yr wyt wedi ennill fy nghalon,wedi ennill fy nghalon ag un edrychiad,ag un gem o'r gadwyn am dy wddf.

10. Mor hyfryd yw dy gariad, fy chwaer a'm priodferch!Y mae dy gariad yn well na gwin,ac arogl dy bersawr yn hyfrytach na'r holl berlysiau.

11. O briodferch, y mae dy wefusau'n diferu diliau mêl,y mae mêl a llaeth dan dy dafod,ac y mae arogl dy ddillad fel arogl Lebanon.

12. Gardd wedi ei chau i mewn yw fy chwaer a'm priodferch,gardd wedi ei chau i mewn, ffynnon wedi ei selio.

13. Y mae dy blanhigion yn berllan o bomgranadau,yn llawn o'r ffrwythau gorau,henna a nard,

14. nard a saffrwn, calamus a sinamon,hefyd yr holl goed thus,myrr ac aloes a'r holl berlysiau gorau.

15. Y mae'r ffynnon yn yr ardd yn ffynnon o ddyfroedd bywyn ffrydio o Lebanon.

16. Deffro, O wynt y gogledd,a thyrd, O wynt y de;chwyth ar fy ngarddi wasgaru ei phersawr.Doed fy nghariad i'w ardd,a bwyta ei ffrwyth gorau.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 4