1. Mor brydferth wyt, f'anwylyd,mor brydferth wyt!Y tu ôl i'th orchudd y mae dy lygaid fel colomennod,a'th wallt fel diadell o eifryn dod i lawr o Fynydd Gilead.
2. Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid wedi eu cneifioyn dod i fyny o'r olchfa,y cwbl ohonynt yn efeilliaid,heb un yn amddifad.
3. Y mae dy wefusau fel edau ysgarlad,a'th enau yn hyfryd;y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlaisfel darn o bomgranad.
4. Y mae dy wddf fel tŵr Dafydd,wedi ei adeiladu, rhes ar res,a mil o estylch yn crogi arno,y cwbl ohonynt yn darianau rhyfelwyr.
5. Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,gefeilliaid ewig yn pori ymysg y lilïau.
6. Cyn i awel y dydd godi,ac i'r cysgodion ddiflannu,fe af i'r mynydd myrr,ac i fryn y thus.
7. Yr wyt i gyd yn brydferth, f'anwylyd;nid oes yr un brycheuyn arnat.
8. O briodferch, tyrd gyda mi o Lebanon,tyrd gyda mi o Lebanon;tyrd i lawr o gopa Amana,ac o ben Senir a Hermon,o ffeuau'r llewoda mynyddoedd y llewpardiaid.
9. Fy chwaer a'm priodferch, yr wyt wedi ennill fy nghalon,wedi ennill fy nghalon ag un edrychiad,ag un gem o'r gadwyn am dy wddf.