Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 2:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Y mae fy nghariad fel gafrewig,neu hydd ifanc;dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur,yn edrych trwy'r ffenestri,ac yn syllu rhwng y dellt.

10. Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf,“Cod yn awr, f'anwylyd,a thyrd, fy mhrydferth;

11. oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio,ciliodd y glaw a darfu;

12. y mae'r blodau'n ymddangos yn y meysydd,daeth yn amser i'r adar ganu,ac fe glywir cân y durtur yn ein gwlad;

13. y mae'r ffigysbren yn llawn ffigys ir,a blodau'r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd.Cod yn awr, f'anwylyd,a thyrd, fy mhrydferth.”

14. Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig,yng nghysgod y clogwyni,gad imi weld dy wyneb,a chlywed dy lais,oherwydd y mae dy lais yn swynol,a'th wyneb yn brydferth.

15. Daliwch inni'r llwynogod,y llwynogod bychain,sy'n difetha'r gwinllannoeddpan yw'r blodau ar y gwinwydd.

16. Y mae fy nghariad yn eiddo i mi,a minnau'n eiddo iddo ef;y mae'n bugeilio'i braidd ymysg y lilïau.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 2