Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 2:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen,a'i fraich dde yn fy nghofleidio.

7. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnochyn enw iyrchod ac ewigod y maes.Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.

8. Ust! dyma fy nghariad,dyma ef yn dod;y mae'n neidio ar y mynyddoedd,ac yn llamu ar y bryniau.

9. Y mae fy nghariad fel gafrewig,neu hydd ifanc;dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur,yn edrych trwy'r ffenestri,ac yn syllu rhwng y dellt.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 2