6. Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen,a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
7. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnochyn enw iyrchod ac ewigod y maes.Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.
8. Ust! dyma fy nghariad,dyma ef yn dod;y mae'n neidio ar y mynyddoedd,ac yn llamu ar y bryniau.
9. Y mae fy nghariad fel gafrewig,neu hydd ifanc;dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur,yn edrych trwy'r ffenestri,ac yn syllu rhwng y dellt.
10. Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf,“Cod yn awr, f'anwylyd,a thyrd, fy mhrydferth;
11. oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio,ciliodd y glaw a darfu;
12. y mae'r blodau'n ymddangos yn y meysydd,daeth yn amser i'r adar ganu,ac fe glywir cân y durtur yn ein gwlad;
13. y mae'r ffigysbren yn llawn ffigys ir,a blodau'r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd.Cod yn awr, f'anwylyd,a thyrd, fy mhrydferth.”
14. Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig,yng nghysgod y clogwyni,gad imi weld dy wyneb,a chlywed dy lais,oherwydd y mae dy lais yn swynol,a'th wyneb yn brydferth.
15. Daliwch inni'r llwynogod,y llwynogod bychain,sy'n difetha'r gwinllannoeddpan yw'r blodau ar y gwinwydd.
16. Y mae fy nghariad yn eiddo i mi,a minnau'n eiddo iddo ef;y mae'n bugeilio'i braidd ymysg y lilïau.
17. Cyn i awel y dydd godi,ac i'r cysgodion ddiflannu,tro ataf, fy nghariad,a bydd yn debyg i afrewigneu hydd ifanc ar y mynyddoedd ysgythrog.