Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 2:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta,a'm hadfywio ag afalau,oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.

6. Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen,a'i fraich dde yn fy nghofleidio.

7. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnochyn enw iyrchod ac ewigod y maes.Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.

8. Ust! dyma fy nghariad,dyma ef yn dod;y mae'n neidio ar y mynyddoedd,ac yn llamu ar y bryniau.

9. Y mae fy nghariad fel gafrewig,neu hydd ifanc;dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur,yn edrych trwy'r ffenestri,ac yn syllu rhwng y dellt.

10. Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf,“Cod yn awr, f'anwylyd,a thyrd, fy mhrydferth;

11. oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio,ciliodd y glaw a darfu;

12. y mae'r blodau'n ymddangos yn y meysydd,daeth yn amser i'r adar ganu,ac fe glywir cân y durtur yn ein gwlad;

13. y mae'r ffigysbren yn llawn ffigys ir,a blodau'r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd.Cod yn awr, f'anwylyd,a thyrd, fy mhrydferth.”

14. Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig,yng nghysgod y clogwyni,gad imi weld dy wyneb,a chlywed dy lais,oherwydd y mae dy lais yn swynol,a'th wyneb yn brydferth.

15. Daliwch inni'r llwynogod,y llwynogod bychain,sy'n difetha'r gwinllannoeddpan yw'r blodau ar y gwinwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 2