Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 2:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwigyw fy nghariad ymysg y bechgyn.Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod,ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau.

4. Cymerodd fi i'r gwindy,gyda baner ei gariad drosof.

5. Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta,a'm hadfywio ag afalau,oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.

6. Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen,a'i fraich dde yn fy nghofleidio.

7. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnochyn enw iyrchod ac ewigod y maes.Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.

8. Ust! dyma fy nghariad,dyma ef yn dod;y mae'n neidio ar y mynyddoedd,ac yn llamu ar y bryniau.

9. Y mae fy nghariad fel gafrewig,neu hydd ifanc;dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur,yn edrych trwy'r ffenestri,ac yn syllu rhwng y dellt.

10. Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf,“Cod yn awr, f'anwylyd,a thyrd, fy mhrydferth;

11. oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio,ciliodd y glaw a darfu;

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 2