35. Pan aeth Gaal fab Ebed allan a sefyll ym mynediad porth y dref, cododd Abimelech a'r dynion oedd gydag ef o'u cuddfan.
36. Gwelodd Gaal y bobl a dywedodd wrth Sebul, “Edrych, y mae pobl yn dod i lawr o gopaon y mynyddoedd.” Ond dywedodd Sebul wrtho, “Gweld cysgod y mynyddoedd fel pobl yr wyt.”
37. Yna dywedodd Gaal eto, “Y mae yna bobl yn dod i lawr o ganol y wlad, ac un fintai'n dod o gyfeiriad Derwen y Swynwyr.”
38. Atebodd Sebul, “Ple'n awr, ynteu, y mae dy geg fawr oedd yn dweud, ‘Pwy yw Abimelech, fel ein bod ni yn ei wasanaethu?’ Onid dyma'r fyddin y buost yn ei dilorni? Allan â thi yn awr i ymladd â hi!”
39. Arweiniodd Gaal benaethiaid Sichem allan, ac ymladd ag Abimelech.
40. Aeth Abimelech ar ei ôl, a ffodd yntau; ond cwympodd llawer yn glwyfedig hyd at fynediad y porth.
41. Arhosodd Abimelech yn Aruma, a gyrrwyd Gaal a'i gymrodyr ymaith gan Sebul rhag iddynt aros yn Sichem.
42. Trannoeth aeth pobl Sichem allan i'r maes, a hysbyswyd Abimelech.
43. Cymerodd yntau fyddin, a'i rhannu'n dair mintai ac ymguddio yn y maes, a phan welodd y bobl yn dod allan o'r dref, cododd yn eu herbyn a'u taro.
44. Ymosododd Abimelech a'r fintai oedd gydag ef, a sefyll ym mynediad porth y dref, ac yr oedd dwy fintai yn ymosod ar bawb oedd yn y maes ac yn eu taro.
45. Brwydrodd Abimelech yn erbyn y dref ar hyd y diwrnod hwnnw, a chipiodd hi a lladd y bobl oedd ynddi. Distrywiodd y dref a'i hau â halen.
46. Pan glywodd holl benaethiaid Tŵr Sichem, aethant i ddaeargell teml El-berith.
47. Dywedwyd wrth Abimelech fod penaethiaid Tŵr Sichem i gyd wedi ymgasglu,
48. ac aeth ef a phawb o'r fyddin oedd gydag ef i Fynydd Salmon. Cymerodd Abimelech un o'r bwyeill yn ei law, a thorri cangen o'r coed, a'i chodi a'i gosod ar ei ysgwydd. Yna dywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, “Brysiwch, gwnewch yr un fath â mi.”
49. Felly torrodd pob un o'r bobl ei gangen a dilyn Abimelech; rhoesant hwy dros y ddaeargell, a'i llosgi uwch eu pennau. Bu farw pawb oedd yn Nhŵr Sichem, oddeutu mil o wŷr a gwragedd.