Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 8:6-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ond dywedodd arweinwyr Succoth, “A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th fintai?”

7. Ac meddai Gideon, “Am hynny, pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi Seba a Salmunna yn fy llaw, fe ffustiaf eich cyrff â drain a mieri'r anialwch.”

8. Wedyn aeth oddi yno i Penuel, a gofyn yr un fath iddynt hwy; ac atebodd pobl Penuel ef yn yr un modd â phobl Succoth.

9. Felly dywedodd wrth bobl Penuel, “Pan ddof yn ôl yn llwyddiannus, fe dynnaf i lawr y tŵr hwn.”

10. Yr oedd Seba a Salmunna wedi cyrraedd Carcor, ac yr oedd eu byddin gyda hwy, tua phymtheng mil, sef pawb a adawyd o fyddin y dwyreinwyr, oherwydd yr oedd cant ac ugain o filoedd o wŷr arfog wedi syrthio.

11. Aeth Gideon ar hyd llwybr y preswylwyr pebyll, o'r tu dwyrain i Noba a Jogbeha, a tharo'r fyddin yn annisgwyl.

12. Ffodd Seba a Salmunna, ond aeth Gideon ar eu hôl, a dal dau frenin Midian a gwasgaru'r holl fyddin mewn braw.

13. Fel yr oedd Gideon fab Joas yn dychwelyd o'r frwydr heibio i allt Heres,

14. daliodd un o fechgyn Succoth; wedi iddo'i holi, ysgrifennodd hwnnw iddo restr yn cynnwys saith deg a saith o arweinwyr a henuriaid Succoth.

15. Pan ddaeth at bobl Succoth, dywedodd, “Dyma Seba a Salmunna, y buoch yn eu dannod imi, gan ofyn, ‘A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th ddynion lluddedig?’ ”

16. Yna cymerodd henuriaid y dref, a dysgodd wers i bobl Succoth â drain a mieri'r anialwch.

17. Tynnodd i lawr dŵr Penuel, a lladdodd bobl y dref.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 8