Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 8:18-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Pan holodd ef Seba a Salmunna, “Sut rai oedd y dynion a laddasoch yn Tabor?”, eu hateb oedd: “Yr oedd pob un ohonynt yr un ffunud â thi, yn edrych fel plant brenin.”

19. Ac meddai Gideon, “Fy mrodyr i oeddent, meibion fy mam. Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, pe byddech wedi eu harbed, ni fyddwn yn eich lladd.”

20. Yna dywedodd wrth Jether ei gyntafanedig, “Dos, lladd hwy.” Ond ni thynnodd y llanc ei gleddyf oherwydd yr oedd arno ofn, gan nad oedd ond llanc.

21. Yna dywedodd Seba a Salmunna, “Tyrd, taro ni dy hun, oherwydd fel y mae dyn y mae ei nerth.” Felly cododd Gideon a lladd Seba a Salmunna, a chymryd y tlysau oedd am yddfau eu camelod.

22. Yna dywedodd yr Israeliaid wrth Gideon, “Llywodraetha di arnom, ti a'th fab a mab dy fab, am iti ein gwaredu o law Midian.”

23. Dywedodd Gideon wrthynt, “Nid myfi na'm mab fydd yn llywodraethu arnoch; yr ARGLWYDD fydd yn llywodraethu arnoch.”

24. Yna meddai Gideon, “Gadewch imi ofyn un peth gennych, sef bod pob un yn rhoi imi glustlws o'i ysbail.” Yr oedd ganddynt glustlysau aur am mai Ismaeliaid oeddent.

25. Dywedasant hwythau, “Fe'u rhown â chroeso.” Ac wedi iddynt daenu clogyn, taflodd pob un arno glustlws a gafodd yn ysbail.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 8