Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 8:17-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Tynnodd i lawr dŵr Penuel, a lladdodd bobl y dref.

18. Pan holodd ef Seba a Salmunna, “Sut rai oedd y dynion a laddasoch yn Tabor?”, eu hateb oedd: “Yr oedd pob un ohonynt yr un ffunud â thi, yn edrych fel plant brenin.”

19. Ac meddai Gideon, “Fy mrodyr i oeddent, meibion fy mam. Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, pe byddech wedi eu harbed, ni fyddwn yn eich lladd.”

20. Yna dywedodd wrth Jether ei gyntafanedig, “Dos, lladd hwy.” Ond ni thynnodd y llanc ei gleddyf oherwydd yr oedd arno ofn, gan nad oedd ond llanc.

21. Yna dywedodd Seba a Salmunna, “Tyrd, taro ni dy hun, oherwydd fel y mae dyn y mae ei nerth.” Felly cododd Gideon a lladd Seba a Salmunna, a chymryd y tlysau oedd am yddfau eu camelod.

22. Yna dywedodd yr Israeliaid wrth Gideon, “Llywodraetha di arnom, ti a'th fab a mab dy fab, am iti ein gwaredu o law Midian.”

23. Dywedodd Gideon wrthynt, “Nid myfi na'm mab fydd yn llywodraethu arnoch; yr ARGLWYDD fydd yn llywodraethu arnoch.”

24. Yna meddai Gideon, “Gadewch imi ofyn un peth gennych, sef bod pob un yn rhoi imi glustlws o'i ysbail.” Yr oedd ganddynt glustlysau aur am mai Ismaeliaid oeddent.

25. Dywedasant hwythau, “Fe'u rhown â chroeso.” Ac wedi iddynt daenu clogyn, taflodd pob un arno glustlws a gafodd yn ysbail.

26. Yr oedd y clustlysau aur y gofynnodd amdanynt yn pwyso mil a saith gant o siclau aur, heb gyfrif y tlysau a'r torchau a'r gwisgoedd porffor oedd gan frenhinoedd Midian, a'r coleri oedd am yddfau'r camelod.

27. Gwnaeth Gideon effod ohonynt a'i osod yn ei dref ei hun, Offra. Aeth Israel gyfan i buteinio ar ei ôl yno, a bu'n dramgwydd i Gideon ac i'w deulu.

28. Felly cafodd Midian ei darostwng gan yr Israeliaid, fel na allai godi ei phen rhagor; a chafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd yn nyddiau Gideon.

29. Aeth Jerwbbaal fab Joas yn ôl i fyw gartref.

30. Yr oedd gan Gideon ddeg a thrigain o feibion; ei blant ei hun oeddent, oherwydd yr oedd llawer o wragedd ganddo.

31. Hefyd cafodd fab o'i ordderch oedd yn Sichem, ac enwodd ef Abimelech.

32. Bu farw Gideon fab Joas mewn gwth o oedran, a chladdwyd ef ym medd ei dad Joas yn Offra'r Abiesriaid.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 8