Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 8:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd gwŷr Effraim wrtho, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni, drwy beidio â'n galw pan aethost i ymladd yn erbyn Midian?” A buont yn dadlau'n chwyrn ag ef.

2. Ond dywedodd ef wrthynt, “Yn awr, beth a wneuthum i o'i gymharu â'r hyn a wnaethoch chwi? Onid yw lloffion Effraim yn well na chynhaeaf Abieser?

3. Yn eich dwylo chwi y rhoddodd Duw Oreb a Seeb, arweinwyr Midian. Beth a fedrais i ei wneud o'i gymharu â'r hyn a wnaethoch chwi?” Wedi iddo ddweud hyn, fe dawelodd eu dig tuag ato.

4. Aeth Gideon tua'r Iorddonen a'i chroesi gyda'r tri chant, yn lluddedig ond yn para i erlid.

5. Dywedodd wrth bobl Succoth, “Os gwelwch yn dda, rhowch dipyn o fara i'r fyddin sy'n fy nilyn, oherwydd maent yn lluddedig, ac yr wyf finnau'n erlid ar ôl Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian.”

6. Ond dywedodd arweinwyr Succoth, “A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th fintai?”

7. Ac meddai Gideon, “Am hynny, pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi Seba a Salmunna yn fy llaw, fe ffustiaf eich cyrff â drain a mieri'r anialwch.”

8. Wedyn aeth oddi yno i Penuel, a gofyn yr un fath iddynt hwy; ac atebodd pobl Penuel ef yn yr un modd â phobl Succoth.

9. Felly dywedodd wrth bobl Penuel, “Pan ddof yn ôl yn llwyddiannus, fe dynnaf i lawr y tŵr hwn.”

10. Yr oedd Seba a Salmunna wedi cyrraedd Carcor, ac yr oedd eu byddin gyda hwy, tua phymtheng mil, sef pawb a adawyd o fyddin y dwyreinwyr, oherwydd yr oedd cant ac ugain o filoedd o wŷr arfog wedi syrthio.

11. Aeth Gideon ar hyd llwybr y preswylwyr pebyll, o'r tu dwyrain i Noba a Jogbeha, a tharo'r fyddin yn annisgwyl.

12. Ffodd Seba a Salmunna, ond aeth Gideon ar eu hôl, a dal dau frenin Midian a gwasgaru'r holl fyddin mewn braw.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 8