Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 7:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Pan gyrhaeddodd Gideon, dyna lle'r oedd rhyw ddyn yn adrodd breuddwyd wrth ei gyfaill ac yn dweud, “Dyma'r freuddwyd a gefais. Yr oeddwn yn gweld torth o fara haidd yn rhowlio trwy wersyll Midian, a phan ddôi at babell, yr oedd yn ei tharo a'i thaflu a'i dymchwel nes bod y babell yn disgyn.”

14. Atebodd ei gyfaill, “Nid yw hyn yn ddim amgen na chleddyf Gideon fab Joas yr Israeliad; y mae Duw wedi rhoi Midian a'r holl wersyll yn ei law.”

15. Pan glywodd Gideon adrodd y freuddwyd a'i dehongli, ymgrymodd i'r llawr; yna dychwelodd at wersyll Israel a dweud, “Codwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gwersyll Midian yn eich llaw.”

16. Rhannodd y tri chant yn dair mintai, a rhoi yn eu llaw utgyrn, a phiserau gwag gyda ffaglau o'u mewn. Dywedodd wrthynt, “Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un fath.

17. Pan ddof fi at gwr y gwersyll, yna gwnewch yr un fath â mi.

18. Pan fyddaf fi a phawb sydd gyda mi yn seinio'r utgorn, seiniwch chwithau eich utgyrn o bob tu i'r gwersyll, a dweud, ‘Yr ARGLWYDD a Gideon!’ ”

19. Cyrhaeddodd Gideon a'r cant o ddynion oedd gydag ef at gwr y gwersyll ar ddechrau'r wyliadwriaeth ganol, a'r gwylwyr newydd eu gosod. Seiniasant yr utgyrn, a dryllio'r piserau oedd yn eu llaw.

20. A dyma'r tair mintai yn seinio'r utgyrn ac yn dryllio'r piserau, gan ddal y ffaglau yn eu llaw chwith a'r utgyrn i'w seinio yn eu llaw dde; ac yr oeddent yn gweiddi, “Cleddyf yr ARGLWYDD a Gideon!”

21. Tra oedd pob un yn sefyll yn ei le o gwmpas y gwersyll, rhuthrodd yr holl wersyll o gwmpas gan weiddi a ffoi.

22. Tra oedd y tri chant yn seinio'r utgyrn, trodd yr ARGLWYDD gleddyf pob un yn y gwersyll yn erbyn ei gymydog, a ffoesant cyn belled â Beth-sitta yn Serera, ac i gyffiniau Abel-mehola a Tabbath.

23. Galwyd ar yr Israeliaid o Nafftali, Aser a Manasse gyfan, a buont yn erlid ar ôl y Midianiaid.

24. Yr oedd Gideon wedi anfon negeswyr drwy holl ucheldir Effraim a dweud, “Dewch i lawr yn erbyn Midian a chymryd rhydau'r Iorddonen o'u blaen hyd Beth-bara.” Casglwyd holl wŷr Effraim a daliasant rydau'r Iorddonen cyn belled â Beth-bara.

25. Daliasant Oreb a Seeb, dau arweinydd Midian, a lladd Oreb wrth graig Oreb, a Seeb wrth winwryf Seeb; yna, wedi iddynt erlid Midian, daethant â phen Oreb a phen Seeb at Gideon y tu hwnt i'r Iorddonen.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 7