5. Pan ddoent hwy a'u hanifeiliaid a'u pebyll, yr oeddent mor niferus â locustiaid; nid oedd rhifo arnynt hwy na'u camelod pan ddoent i'r wlad i'w difrodi.
6. Felly aeth Israel yn dlawd iawn o achos Midian; yna galwodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD.
7. Wedi iddynt alw ar yr ARGLWYDD o achos Midian,
8. anfonodd yr ARGLWYDD broffwyd at yr Israeliaid, a dywedodd hwnnw wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Myfi a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft, a'ch rhyddhau o dŷ'r caethiwed;
9. achubais chwi o law'r Eifftiaid a phawb oedd yn eich gormesu, a'u gyrru allan o'ch blaen, a rhoi eu tir ichwi.
10. Dywedais wrthych: Myfi yw'r ARGLWYDD, eich Duw; peidiwch ag ofni duwiau'r Amoriaid yr ydych yn byw yn eu gwlad. Ond ni wrandawsoch arnaf.’ ”
11. Daeth angel yr ARGLWYDD ac eistedd dan y dderwen yn Offra, a oedd yn perthyn i Joas yr Abiesriad. Yr oedd ei fab, Gideon, yn dyrnu gwenith mewn gwinwryf, i'w guddio rhag Midian.
12. Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD gyda thi, ŵr dewr.”
13. Atebodd Gideon ef, “Ond, syr, os yw'r ARGLWYDD gyda ni, pam y mae hyn i gyd wedi digwydd inni? A phle mae ei holl ryfeddodau y soniodd ein hynafiaid amdanynt, a dweud wrthym, ‘Oni ddygodd yr ARGLWYDD ni i fyny o'r Aifft?’
14. Erbyn hyn y mae'r ARGLWYDD wedi'n gadael, a'n rhoi yng ngafael Midian.” Trodd angel yr ARGLWYDD ato a dweud, “Dos, gyda'r nerth hwn sydd gennyt, a gwared Israel o afael Midian; onid wyf fi yn dy anfon?”
15. Atebodd yntau, “Ond, syr, sut y gwaredaf fi Israel? Edrych, fy nhylwyth i yw'r gwannaf yn Manasse, a minnau yw'r distatlaf o'm teulu.”