Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 5:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Pan ddewiswyd duwiau newydd,yna daeth brwydro i'r pyrth,ac ni welwyd na tharian na gwaywffonymhlith deugain mil yn Israel.

9. Mae fy nghalon o blaid llywiawdwyr Israel,y rhai ymysg y bobl a aeth o'u gwirfodd.Bendithiwch yr ARGLWYDD.

10. “Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch,chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.

11. Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau,ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD,buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel,pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.

12. “Deffro, deffro, Debora!Deffro, deffro, lleisia gân!Cyfod, Barac! Cymer lu o garcharorion, ti fab Abinoam!

13. “Yna fe aeth y gweddill i lawr at y pendefigion,do, fe aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr ymysg y cedyrn.

14. Daeth rhai o Effraim a lledu drwy'r dyffryn,a gweiddi, ‘Ar dy ôl di, Benjamin, gyda'th geraint!’Aeth llywiawdwyr i lawr o Machir;ac o Sabulon, rhai'n cario gwialen swyddog.

15. Yr oedd tywysogion Issachar gyda Debora;bu Issachar yn ffyddlon i Barac,yn rhuthro i'r dyffryn ar ei ôl.Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

16. Pam yr arhosaist rhwng y corlannaui wrando ar chwiban bugeiliaid?Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 5