Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 5:2-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. “Am i'r arweinwyr roi arweiniad yn Israel,am i'r bobl ymroi o'u gwirfodd,bendithiwch yr ARGLWYDD.

3. Clywch, frenhinoedd! Gwrandewch, dywysogion!Canaf finnau i'r ARGLWYDD,a moliannu ARGLWYDD Dduw Israel.

4. “O ARGLWYDD, pan aethost allan o Seir,ac ymdeithio o Faes Edom,fe grynodd y ddaear, glawiodd y nefoedd,ac yr oedd y cymylau hefyd yn diferu dŵr.

5. Siglodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai,o flaen ARGLWYDD Dduw Israel.

6. “Yn nyddiau Samgar fab Anath, ac yn nyddiau Jael, peidiodd y carafanau;aeth y teithwyr ar hyd llwybrau troellog.

7. Darfu am drigolion pentrefi,darfu amdanynt yn Israelnes i mi, Debora, gyfodi,nes i mi godi yn fam yn Israel.

8. Pan ddewiswyd duwiau newydd,yna daeth brwydro i'r pyrth,ac ni welwyd na tharian na gwaywffonymhlith deugain mil yn Israel.

9. Mae fy nghalon o blaid llywiawdwyr Israel,y rhai ymysg y bobl a aeth o'u gwirfodd.Bendithiwch yr ARGLWYDD.

10. “Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch,chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 5