Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 3:23-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Yna aeth Ehud allan trwy'r cyntedd a chau drysau'r ystafell arno a'u cloi.

24. Wedi iddo fynd i ffwrdd, daeth gweision Eglon, ac wedi edrych a gweld drysau'r ystafell ynghlo, dywedasant, “Rhaid mai esmwytháu ei gorff y mae yn yr ystafell haf.”

25. Wedi iddynt ddisgwyl nes bod cywilydd arnynt, ac yntau heb agor drysau'r ystafell, cymerasant allwedd a'u hagor, a dyna lle'r oedd eu meistr wedi syrthio i'r llawr yn farw.

26. Yr oedd Ehud wedi dianc tra oeddent hwy'n oedi; aeth heibio i'r colofnau a dianc i Seira.

27. Pan gyrhaeddodd, fe ganodd yr utgorn ym mynydd-dir Effraim, a daeth yr Israeliaid i lawr gydag ef o'r mynydd-dir, ac yntau'n eu harwain.

28. Dywedodd wrthynt, “Dilynwch fi, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi eich gelyn Moab yn eich llaw.” Aethant hwythau ar ei ôl a dal rhydau'r Iorddonen yn erbyn Moab, a rhwystro pawb rhag croesi.

29. Lladdasant y pryd hwnnw tua deng mil o'r Moabiaid, pob un yn heini a grymus; ni ddihangodd neb.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 3