Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 3:17-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Cyflwynodd y deyrnged i Eglon brenin Moab, a oedd yn ddyn tew iawn.

18. Ar ôl gorffen cyflwyno'r deyrnged, anfonodd ymaith y bobl a fu'n cario'r deyrnged,

19. ond dychwelodd Ehud ei hun oddi wrth y colofnau ger Gilgal a dweud, “Y mae gennyf neges gyfrinachol iti, O frenin.”

20. Galwodd yntau am dawelwch, ac aeth pawb oedd yn sefyll o'i gwmpas allan. Yna nesaodd Ehud ato, ac yntau'n eistedd wrtho'i hunan mewn ystafell haf oedd ganddo ar y to, a dywedodd, “Gair gan Dduw sydd gennyf iti.” Cododd yntau oddi ar ei sedd.

21. Yna estynnodd Ehud ei law chwith, cydiodd yn y cleddyf oedd ar ei glun dde, a'i daro i fol Eglon,

22. nes bod y carn yn mynd i mewn ar ôl y llafn, a'r braster yn cau amdano. Ni thynnodd y cleddyf o'i fol, a daeth allan y tu cefn.

23. Yna aeth Ehud allan trwy'r cyntedd a chau drysau'r ystafell arno a'u cloi.

24. Wedi iddo fynd i ffwrdd, daeth gweision Eglon, ac wedi edrych a gweld drysau'r ystafell ynghlo, dywedasant, “Rhaid mai esmwytháu ei gorff y mae yn yr ystafell haf.”

25. Wedi iddynt ddisgwyl nes bod cywilydd arnynt, ac yntau heb agor drysau'r ystafell, cymerasant allwedd a'u hagor, a dyna lle'r oedd eu meistr wedi syrthio i'r llawr yn farw.

26. Yr oedd Ehud wedi dianc tra oeddent hwy'n oedi; aeth heibio i'r colofnau a dianc i Seira.

27. Pan gyrhaeddodd, fe ganodd yr utgorn ym mynydd-dir Effraim, a daeth yr Israeliaid i lawr gydag ef o'r mynydd-dir, ac yntau'n eu harwain.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 3