Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 21:23-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Gwnaeth y Benjaminiaid hyn, ac wedi i bob un gael gwraig o blith y dawnswyr yr oeddent wedi eu cipio, aethant yn ôl i'w tiriogaeth ac ailadeiladu'r trefi a byw ynddynt.

24. Dychwelodd yr Israeliaid hefyd yr un pryd i'w tiriogaeth, a phob un yn mynd yn ôl at ei lwyth a'i deulu ei hun.

25. Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 21