1. Daeth Israel gyfan allan fel un, o Dan hyd Beerseba a thir Gilead, a galw cynulleidfa Israel at yr ARGLWYDD i Mispa.
2. Ymgasglodd arweinwyr byddin holl lwythau Israel yn gynulliad o bobl yr ARGLWYDD, pedwar can mil o wŷr traed yn dwyn cleddyf.
3. Clywodd y Benjaminiaid fod yr Israeliaid wedi mynd i fyny i Mispa. Gofynnodd yr Israeliaid, “Dywedwch sut y digwyddodd y fath gamwri.”
4. Atebodd y Lefiad, sef gŵr y ddynes a lofruddiwyd, “Yr oeddwn i a'm gordderch wedi mynd i Gibea Benjamin i letya;
5. yna cododd dinasyddion Gibea yn f'erbyn ac amgylchynu'r tŷ liw nos, gan fwriadu fy lladd; treisiwyd fy ngordderch, a bu hi farw o'r herwydd.
6. Cymerais innau hi a'i thorri'n ddarnau a'u hanfon drwy bob rhan o diriogaeth Israel, oherwydd y mae'r treiswyr hyn wedi gwneud anlladrwydd ffiaidd yn Israel.
7. Chwi oll, bobl Israel, mynegwch eich barn a'ch cyngor yma'n awr.”
8. Cododd yr holl bobl fel un gŵr a dweud, “Ni ddychwel neb ohonom i'w babell na mynd yn ôl adref.
9. Dyma'r hyn a wnawn i Gibea: awn yn ei herbyn trwy fwrw coelbren;
10. a dewiswn ddeg dyn o bob cant, cant o bob mil, a mil o bob myrddiwn trwy holl lwythau Israel, i gasglu lluniaeth i'r fyddin fydd yn mynd yn erbyn Gibea Benjamin o achos yr holl anlladrwydd a wnaethant yn Israel.”
11. Felly daeth yr holl Israeliaid at ei gilydd fel un yn erbyn y dref.
12. Anfonodd llwythau Israel ddynion drwy holl lwyth Benjamin gan ddweud, “Pa gamwri yw hwn a ddigwyddodd yn eich mysg?
13. Ildiwch y dihirod hyn sydd yn Gibea, inni eu rhoi i farwolaeth, a dileu'r drwg o Israel.” Ond ni fynnai'r Benjaminiaid wrando ar eu perthnasau yr Israeliaid.
14. Ymgasglodd y Benjaminiaid o'u trefi i Gibea er mwyn mynd i ryfel yn erbyn yr Israeliaid.
15. Ar y dydd hwnnw rhestrwyd o drefi'r Benjaminiaid chwe mil ar hugain o ddynion yn dwyn cleddyf, ar wahân i drigolion Gibea, a oedd yn rhestru saith gant o wŷr dethol.
16. Yn yr holl fyddin hon yr oedd pob un o'r saith gant o wŷr dethol yn llawchwith, ac yn medru anelu carreg i drwch y blewyn heb fethu.
17. Yr oedd gwŷr Israel, ar wahân i Benjamin, yn rhestru pedwar can mil o ddynion yn dwyn cleddyf, pob un yn rhyfelwr.
18. Aeth yr Israeliaid yn eu blaen i Fethel, a gofyn i Dduw, “Pwy ohonom sydd i arwain yn y frwydr yn erbyn y Benjaminiaid?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Jwda sydd i arwain.”
19. Cychwynnodd yr Israeliaid ben bore a gwersyllu gyferbyn â Gibea.
20. Aeth yr Israeliaid i ymosod ar y Benjaminiaid, a gosod eu rhengoedd ar gyfer brwydr o flaen Gibea.
21. Ond ymosododd y Benjaminiaid allan o Gibea, a gadael dwy fil ar hugain o blith byddin Israel yn farw ar y maes y diwrnod hwnnw.
22. Cyn i fyddin pobl Israel atgyfnerthu ac ailymgynnull i ryfel yn yr un fan â'r diwrnod cynt,
23. aeth yr Israeliaid i fyny i Fethel ac wylo gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a gofyn i'r ARGLWYDD, “A awn ni eto i ymladd â'n brodyr y Benjaminiaid?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Ewch!”
24. Felly fe aeth yr Israeliaid i ryfela â'r Benjaminiaid yr ail ddiwrnod.
25. Gwnaeth y Benjaminiaid gyrch arnynt eilwaith o Gibea, a'r tro hwn gadael deunaw mil o blith byddin Israel yn farw ar y maes, a'r rheini bob un yn dwyn cleddyf.
26. Felly fe aeth yr Israeliaid i gyd, a'r holl fyddin, i fyny i Fethel, ac wylo ac eistedd yno gerbron yr ARGLWYDD gan ymprydio drwy'r dydd hyd yr hwyr, ac offrymu poethoffrymau a heddoffrymau gerbron yr ARGLWYDD.
27. Yr adeg honno, ym Methel yr oedd arch cyfamod Duw,
28. a Phinees fab Eleasar, fab Aaron oedd yn gofalu amdani ar y pryd. Pan ofynnodd yr Israeliaid i'r ARGLWYDD, “A awn ni allan i ymladd eto â'n perthnasau y Benjaminiaid, ai peidio?” atebodd yr ARGLWYDD, “Ewch, oherwydd yfory fe'u rhoddaf hwy yn eich llaw.”
29. Gosododd Israel filwyr cudd o amgylch Gibea,
30. cyn mynd i fyny'r trydydd dydd yn erbyn y Benjaminiaid ac ymgynnull yn eu rhengoedd o flaen Gibea fel cynt.
31. Gwnaeth y Benjaminiaid gyrch yn erbyn y fyddin, a denwyd hwy oddi wrth y dref; dechreusant wneud lladdfa ymysg y fyddin fel cynt, ac archolli tua deg ar hugain o'r Israeliaid yn y tir agored ger y priffyrdd i Fethel ac i Gibea.
32. Yr oedd y Benjaminiaid yn dweud, “Yr ydym yn eu trechu fel o'r blaen”; a'r Israeliaid yn dweud, “Fe giliwn er mwyn eu denu o'r dref i'r priffyrdd.”
33. Yna safodd yr Israeliaid a ffurfio'u rhengoedd ger Baal-tamar, a dyma'r Israeliaid oedd wedi ymguddio yn rhuthro o'u cuddfeydd i'r gorllewin o Gibea.
34. Daeth deng mil o filwyr dethol o Israel gyfan yn erbyn y Gibeaid o'r dwyrain; ond am fod brwydr chwyrn ar y pryd, ni wyddai'r Benjaminiaid fod trychineb yn dod arnynt.
35. Trawodd yr ARGLWYDD wŷr Benjamin o flaen yr Israeliaid, a'r diwrnod hwnnw lladdodd yr Israeliaid o blith Benjamin bum mil ar hugain ac un cant o wŷr yn dwyn cleddyf.
36. Gwelodd y Benjaminiaid eu bod wedi colli'r dydd. Yr oedd byddin Israel wedi ildio tir i'r Benjaminiaid am eu bod yn ymddiried yn y milwyr cudd a osodwyd ger Gibea.
37. Brysiodd y milwyr cudd i ruthro ar Gibea, gan adael eu cuddfannau a tharo'r holl dref â'r cleddyf.
38. Yr arwydd i fyddin Israel oddi wrth y rhai ynghudd fyddai colofn o fwg yn mynd i fyny o'r dref;
39. yna byddai byddin Israel yn troi yn y frwydr. Ar y dechrau yr oedd y Benjaminiaid wedi anafu tua deg ar hugain o fyddin Israel, a meddwl yn sicr eu bod yn eu concro fel yn y frwydr flaenorol.
40. Ond pan ddechreuodd y golofn fwg esgyn o'r dref i'r awyr, trodd y Benjaminiaid a gweld y dref gyfan yn wenfflam.
41. Pan drodd byddin Israel arnynt, brawychwyd y Benjaminiaid o sylweddoli bod trychineb wedi eu goddiweddyd.
42. Troesant i ffwrdd o flaen byddin Israel i gyfeiriad yr anialwch, ond parhaodd yr ymladd; ac yr oedd yr Israeliaid, a oedd wedi dod i'r dref, bellach yn eu mysg yn eu difa.
43. Buont yn erlid y Benjaminiaid o bob tu yn ddiatal, a'u goddiweddyd i'r dwyrain o Gibea.
44. Syrthiodd deunaw mil o wŷr Benjamin, y cwbl ohonynt yn rhyfelwyr dewr.
45. Trodd y gweddill a ffoi tua'r anialwch i graig Rimmon, a daliodd yr Israeliaid bum mil ohonynt ar y priffyrdd; yna buont yn ymlid yn galed ar ôl y Benjaminiaid hyd at Gidom, a lladd dwy fil ohonynt.
46. Cyfanswm y rhai o Benjamin a syrthiodd y diwrnod hwnnw oedd pum mil ar hugain o wŷr yn dwyn cleddyf, a'r cwbl ohonynt yn rhyfelwyr dewr.
47. O'r rhai a drodd a ffoi tua'r anialwch i graig Rimmon, cyrhaeddodd chwe chant o wŷr, a buont yn byw yng nghraig Rimmon am bedwar mis.
48. Wedi i fyddin Israel droi yn ei hôl yn erbyn y Benjaminiaid, lladdasant â'r cleddyf bawb yn y dref, gan gynnwys anifeiliaid, a llosgi hefyd bob tref a ddaeth i'w meddiant.