Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 19:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. cychwynnodd ei gŵr ar ei hôl gyda'i was a dau asyn, i'w denu hi'n ôl. Daeth hi ag ef i'w chartref, a phan welodd ei thad ef yr oedd yn falch o'i gyfarfod.

4. Mynnodd ei dad-yng-nghyfraith, sef tad yr eneth, iddo aros yno am dridiau, a buont yn bwyta ac yn yfed ac yn cysgu yno.

5. Ar y pedwerydd dydd, wedi iddynt godi'n fore a pharatoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrth ei fab-yng-nghyfraith, “Atgyfnertha dy hun â thamaid o fara cyn cychwyn.”

6. Felly dyna'r ddau'n eistedd i lawr gyda'i gilydd i fwyta ac yfed; ac meddai tad yr eneth wrth y gŵr, “Bodlona aros noson eto a'th fwynhau dy hun.”

7. Er i'r gŵr godi i fynd, bu ei dad-yng-nghyfraith mor daer fel yr arhosodd yno noson arall.

8. A phan gododd i gychwyn fore'r pumed diwrnod, dywedodd tad yr eneth, “Atgyfnertha dy hun.”

9. A buont yn hamddena hyd hwyr y dydd ac yn bwyta gyda'i gilydd. Yna, pan oedd y dyn a'i ordderch a'i lanc yn paratoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrtho, “Edrych, y mae'n hwyrhau, arhoswch heno; mae'r dydd ar ddarfod. Os arhosi yma heno a'th fwynhau dy hun, fe gewch godi'n gynnar yfory i'ch taith, a mynd adref.”

10. Ond ni fynnai'r dyn aros; cododd, a mynd gyda'i ddau asyn llwythog, a'i ordderch, a'i was, nes dod gyferbyn â Jebus, hynny yw Jerwsalem.

11. A phan oeddent yn ymyl Jebus, a'r dydd yn darfod, dywedodd y gwas wrth ei feistr, “Tyrd yn awr, gad inni droi i mewn yma i ddinas y Jebusiaid, a threulio'r nos ynddi.”

12. Ond atebodd ei feistr, “Nid awn i mewn i ddinas estron lle nad oes Israeliaid; fe awn cyn belled â Gibea.”

13. Ac meddai wedyn wrth ei was, “Tyrd, fe awn cyn belled â Gibea neu Rama, a threulio'r nos yn un ohonynt.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 19