Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 19:14-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Felly ymlaen â hwy nes i'r haul fachlud arnynt yn ymyl Gibea Benjamin.

15. Troesant i mewn yno i dreulio'r nos yn Gibea; ond er iddynt fynd ac eistedd ar sgwâr y dref, nid oedd neb am eu cymryd i mewn i letya.

16. Ar hynny, dyma hen ŵr yn dod o'i waith yn y maes gyda'r hwyr. Un o fynydd-dir Effraim oedd ef, ond yn cartrefu dros dro yn Gibea; Benjaminiaid oedd pobl y lle.

17. Wrth godi ei olwg, gwelodd y teithiwr ar sgwâr y dref, ac meddai'r hen ŵr, “I ble rwyt ti'n mynd, ac o ble y daethost?”

18. Dywedodd yntau wrtho, “Ar daith o Fethlehem Jwda i gyffiniau mynydd-dir Effraim yr ydym ni. Un oddi yno wyf fi, yn dychwelyd adref ar ôl bod ym Methlehem Jwda; ond nid oes neb wedi fy nghymryd i'w dŷ.

19. Y mae gennym wellt ac ebran i'n hasynnod, hefyd fara a gwin i mi a'th lawforwyn a'r gwas; nid oes ar dy weision angen un dim.”

20. Dywedodd yr hen ŵr, “Croeso i chwi. Fe ofalaf fi am eich anghenion i gyd; rhaid ichwi beidio â threulio'r nos ar y sgwâr.”

21. Aeth â hwy i'w dŷ a phorthi'r asynnod; cawsant hwythau olchi eu traed a bwyta ac yfed.

22. Tra oeddent yn eu mwynhau eu hunain, daeth rhai o ddihirod y dref i ymgasglu o gwmpas y tŷ, a churo ar y drws a dweud wrth yr hen ŵr oedd yn berchen y tŷ, “Tyrd â'r dyn a ddaeth i'th dŷ allan, i ni gael cyfathrach ag ef.”

23. Aeth perchennog y tŷ allan atynt a dweud wrthynt, “Nage, frodyr, peidiwch â chamymddwyn; gan fod y dyn wedi dod i'm tŷ, peidiwch â gwneud y fath anlladrwydd.

24. Dyma fy merch i, sy'n wyryf, a'i ordderch ef; dof â hwy allan i chwi eu treisio, neu wneud fel y mynnoch iddynt, ond peidiwch â gwneud y fath anlladrwydd gyda'r dyn.”

25. Ond ni fynnai'r dynion wrando arno. Felly cydiodd y dyn yn ei ordderch a'i gwthio allan atynt, a buont yn ei threisio a'i cham-drin drwy'r nos, hyd y bore, ac yna gadael iddi fynd ar doriad y wawr.

26. Yn y bore, daeth y ddynes a disgyn wrth ddrws y tŷ lle'r oedd ei meistr.

27. Pan gododd ei meistr yn y bore ac agor drws y tŷ i fynd allan i gychwyn ar ei daith, dyna lle'r oedd ei ordderch wedi disgyn wrth ddrws y tŷ, a'i dwy law ar y rhiniog.

28. Dywedodd wrthi, “Cod, inni gael mynd.” Ond nid oedd ateb. Cododd hi ar yr asyn ac aeth adref.

29. Pan gyrhaeddodd ei gartref, cymerodd gyllell, a gafael yn ei ordderch a'i darnio bob yn gymal yn ddeuddeg darn, a'u hanfon drwy holl derfynau Israel.

30. Yr oedd pawb a'i gwelodd yn dweud, “Ni wnaed ac ni welwyd y fath beth, o'r dydd y daeth yr Israeliaid i fyny o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn. Edrychwch arni ac ystyried; yna mynegwch eich barn.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 19