11. A phan oeddent yn ymyl Jebus, a'r dydd yn darfod, dywedodd y gwas wrth ei feistr, “Tyrd yn awr, gad inni droi i mewn yma i ddinas y Jebusiaid, a threulio'r nos ynddi.”
12. Ond atebodd ei feistr, “Nid awn i mewn i ddinas estron lle nad oes Israeliaid; fe awn cyn belled â Gibea.”
13. Ac meddai wedyn wrth ei was, “Tyrd, fe awn cyn belled â Gibea neu Rama, a threulio'r nos yn un ohonynt.”
14. Felly ymlaen â hwy nes i'r haul fachlud arnynt yn ymyl Gibea Benjamin.
15. Troesant i mewn yno i dreulio'r nos yn Gibea; ond er iddynt fynd ac eistedd ar sgwâr y dref, nid oedd neb am eu cymryd i mewn i letya.
16. Ar hynny, dyma hen ŵr yn dod o'i waith yn y maes gyda'r hwyr. Un o fynydd-dir Effraim oedd ef, ond yn cartrefu dros dro yn Gibea; Benjaminiaid oedd pobl y lle.
17. Wrth godi ei olwg, gwelodd y teithiwr ar sgwâr y dref, ac meddai'r hen ŵr, “I ble rwyt ti'n mynd, ac o ble y daethost?”
18. Dywedodd yntau wrtho, “Ar daith o Fethlehem Jwda i gyffiniau mynydd-dir Effraim yr ydym ni. Un oddi yno wyf fi, yn dychwelyd adref ar ôl bod ym Methlehem Jwda; ond nid oes neb wedi fy nghymryd i'w dŷ.
19. Y mae gennym wellt ac ebran i'n hasynnod, hefyd fara a gwin i mi a'th lawforwyn a'r gwas; nid oes ar dy weision angen un dim.”