Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 17:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Gofynnodd Mica iddo, “O ble'r wyt ti'n dod?” Atebodd yntau, “Lefiad wyf fi o Fethlehem Jwda, ac rwyf am aros ymhle bynnag y caf le.”

10. Ac meddai Mica wrtho, “Aros gyda mi, a bydd yn dad ac yn offeiriad i mi. Rhoddaf finnau iti ddeg darn arian y flwyddyn, dy ddillad a'th fwyd.”

11. Cytunodd y llanc o Lefiad i fyw gyda'r dyn, a bu fel un o'i feibion.

12. Urddodd Mica y Lefiad ifanc, a bu'n offeiriad iddo ac yn aros yn nhÅ· Mica.

13. A dywedodd Mica, “Gwn yn awr y bydd yr ARGLWYDD yn fy llwyddo, oherwydd daeth y Lefiad yn offeiriad imi.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 17