Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 17:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd dyn o fynydd-dir Effraim o'r enw Mica.

2. Dywedodd wrth ei fam, “Ynglŷn â'r un cant ar ddeg o ddarnau arian a ddygwyd oddi arnat, ac y clywais di'n cyhoeddi melltith arnynt—dyma'r arian gennyf fi; myfi a'u cymerodd.” Ac meddai ei fam, “Bendith yr ARGLWYDD fo ar fy mab!”

3. Rhoddodd yr un cant ar ddeg o ddarnau arian yn ôl i'w fam; a dywedodd hithau, “Yr wyf am lwyr gysegru'r arian hwn i'r ARGLWYDD, a'i roi i'm mab i wneud cerfddelw a delw dawdd; felly dyma fi'n ei roi yn ôl iti.”

4. Ond dychwelodd ef yr arian i'w fam, ac yna cymerodd hi ddau gant o'r darnau a'u rhoi i'r eurych, a gwnaeth yntau gerfddelw a delw dawdd i fod yn nhŷ Mica.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 17