Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 15:5-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yna wedi iddo gynnau'r ffaglau, gyrrodd hwy drwy gnydau'r Philistiaid, a llosgi'r styciau a'r ŷd oedd heb ei dorri a'r gerddi olewydd.

6. Pan ofynnodd y Philistiaid pwy oedd wedi gwneud hyn, dywedwyd, “Samson, mab-yng-nghyfraith y dyn o Timna, am fod hwnnw wedi cymryd ei wraig ef a'i rhoi i'w was priodas.”

7. Aeth y Philistiaid a'i llosgi hi a'i thad; a dywedodd Samson, “Os ydych chwi'n ymddwyn fel hyn, nid ymataliaf finnau nes dial arnoch.”

8. Trawodd hwy'n bendramwnwgl â difrod mawr, cyn mynd ymaith ac aros mewn hafn yng nghraig Etam.

9. Daeth y Philistiaid i fyny a gwersyllu yn Jwda, ac ymledu trwy Lehi.

10. Gofynnodd gwŷr Jwda, “Pam y daethoch yn ein herbyn?” Ac meddent, “Daethom i ddal Samson, a gwneud iddo ef fel y gwnaeth ef i ni.”

11. Yna aeth tair mil o wŷr o Jwda i hafn craig Etam a dweud wrth Samson, “Fe wyddost yn iawn mai'r Philistiaid sy'n ein llywodraethu; beth yw hyn a wnaethost inni?” Atebodd yntau, “Gwneuthum iddynt hwy fel y gwnaethant hwy i mi.”

12. Yna dywedasant, “Yr ydym ni wedi dod yma i'th rwymo a'th roi yn llaw'r Philistiaid.” Dywedodd Samson wrthynt, “Ewch ar eich llw na wnewch chwi niwed imi.”

13. Dywedodd y gwŷr, “Na, dim ond dy rwymo a wnawn, a'th drosglwyddo iddynt hwy; yn sicr, nid ydym am dy ladd.” Yna rhwymasant ef â dwy raff newydd, a mynd ag ef o'r graig.

14. Pan gyrhaeddodd Lehi, a'r Philistiaid yn bloeddio wrth ei gyfarfod, disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth y rhaffau oedd am ei freichiau fel llinyn wedi ei ddeifio gan dân, a syrthiodd ei rwymau oddi am ei ddwylo.

15. Cafodd ên asyn, a honno heb sychu; gafaelodd ynddi â'i law, a lladd mil o ddynion.

16. Ac meddai Samson:“Â gên asyn rhois iddynt gurfa asyn;â gên asyn lleddais fil o ddynion.”

17. Wedi iddo orffen dweud hyn, taflodd yr ên o'i law, a galwyd y lle hwnnw Ramath-lehi.

18. Yr oedd syched mawr arno, a galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “Ti a roddodd y fuddugoliaeth fawr hon i'th was, ond a wyf yn awr i drengi o syched, a syrthio i afael y rhai dienwaededig?”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 15