Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 13:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Gwrandawodd Duw ar gais Manoa, a daeth angel Duw eto at y wraig, pan oedd hi'n eistedd allan yn y maes, a'i gŵr Manoa heb fod gyda hi.

10. Rhedodd hithau ar unwaith a dweud wrth ei gŵr, “Y mae'r dyn a ddaeth ataf y diwrnod hwnnw wedi ymddangos eto.”

11. Cododd Manoa a dilynodd ei wraig at y dyn a gofyn iddo, “Ai ti yw'r gŵr a fu'n siarad gyda'm gwraig?” Ac meddai yntau, “Ie.”

12. Gofynnodd Manoa iddo, “Pan wireddir dy air, sut fachgen fydd ef, a beth fydd ei waith?”

13. Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Manoa, “Rhaid i'th wraig ofalu am bopeth a ddywedais wrthi;

14. nid yw hi i fwyta dim a ddaw o'r winwydden, nac i yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan.

15. Y mae i gadw'r cwbl a orchmynnais iddi.” Yna dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr ydym am dy gadw yma nes y byddwn wedi paratoi myn gafr ar dy gyfer.”

16. Ond atebodd angel yr ARGLWYDD ef, “Pe bait yn fy nghadw yma, ni fyddwn yn bwyta dy fwyd, ond os wyt am offrymu poethoffrwm, offryma ef i'r ARGLWYDD.” Ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD ydoedd,

17. a gofynnodd iddo, “Beth yw d'enw, inni gael dy anrhydeddu pan wireddir dy air?”

18. Atebodd angel yr ARGLWYDD, “Pam yr wyt ti'n holi fel hyn ynghylch fy enw? Y mae'n rhyfeddol!”

19. Yna cymerodd Manoa'r myn gafr a'r bwydoffrwm, a'u hoffrymu i'r ARGLWYDD ar y graig, a digwyddodd rhyfeddod tra oedd Manoa a'i wraig yn edrych.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 13