Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 13:15-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Y mae i gadw'r cwbl a orchmynnais iddi.” Yna dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr ydym am dy gadw yma nes y byddwn wedi paratoi myn gafr ar dy gyfer.”

16. Ond atebodd angel yr ARGLWYDD ef, “Pe bait yn fy nghadw yma, ni fyddwn yn bwyta dy fwyd, ond os wyt am offrymu poethoffrwm, offryma ef i'r ARGLWYDD.” Ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD ydoedd,

17. a gofynnodd iddo, “Beth yw d'enw, inni gael dy anrhydeddu pan wireddir dy air?”

18. Atebodd angel yr ARGLWYDD, “Pam yr wyt ti'n holi fel hyn ynghylch fy enw? Y mae'n rhyfeddol!”

19. Yna cymerodd Manoa'r myn gafr a'r bwydoffrwm, a'u hoffrymu i'r ARGLWYDD ar y graig, a digwyddodd rhyfeddod tra oedd Manoa a'i wraig yn edrych.

20. Fel yr oedd y fflam yn codi oddi ar yr allor i'r awyr, esgynnodd angel yr ARGLWYDD yn fflam yr allor. Yr oedd Manoa a'i wraig yn edrych, a syrthiasant ar eu hwynebau ar lawr.

21. Nid ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddynt mwyach, a sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd.

22. Yna dywedodd Manoa wrth ei wraig, “Yr ydym yn sicr o farw am inni weld Duw.”

23. Ond meddai hi wrtho, “Pe byddai'r ARGLWYDD wedi dymuno ein lladd, ni fyddai wedi derbyn poethoffrwm a bwydoffrwm o'n llaw, na dangos yr holl bethau hyn i ni, na pheri inni glywed pethau fel hyn yn awr.”

24. Wedi i'r wraig eni mab, galwodd ef Samson; tyfodd y bachgen dan fendith yr ARGLWYDD,

25. a dechreuodd ysbryd yr ARGLWYDD ei gynhyrfu yn Mahane-dan, rhwng Sora ac Estaol.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 13