Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 11:24-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Onid yr hyn y bydd dy dduw Cemos yn ei roi'n feddiant iti yr wyt ti i'w feddiannu? Yn yr un modd meddiannwn ninnau'r cyfan y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ei roi'n feddiant i ninnau.

25. Ac yn awr, a wyt ti rywfaint gwell na Balac fab Sippor, brenin Moab? A fu ef yn ymryson o gwbl ag Israel, neu'n ymladd erioed yn eu herbyn?

26. Bu Israel yn byw yn Hesbon ac Aroer a'u maestrefi, ac yn yr holl drefi sydd ar lannau'r afon, am dri chan mlynedd; pam na fyddech wedi eu hadennill yn ystod y cyfnod hwnnw?

27. Nid myfi sydd wedi pechu yn d'erbyn, ond ti sy'n gwneud cam â mi wrth ddod i ryfela yn f'erbyn. Y mae'r ARGLWYDD yn farnwr; barned ef heddiw rhwng Israel a'r Ammoniaid.’ ”

28. Ond ni wrandawodd brenin yr Ammoniaid ar y neges a anfonodd Jefftha ato.

29. Daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Jefftha, ac aeth trwy Gilead a Manasse a thrwy Mispe Gilead, ac oddi yno drosodd at yr Ammoniaid.

30. A gwnaeth Jefftha adduned i'r ARGLWYDD a dweud, “Os rhoi di'r Ammoniaid yn fy llaw,

31. beth bynnag a ddaw allan o ddrws fy nhÅ· i'm cyfarfod wrth imi ddychwelyd yn ddiogel oddi wrth yr Ammoniaid, bydd yn eiddo i'r ARGLWYDD, ac offrymaf ef yn boethoffrwm.”

32. A phan aeth Jefftha i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid, fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Jefftha,

33. a goresgynnodd hwy'n llwyr, o Aroer hyd gyffiniau Minnith—ugain tref, gan gynnwys Abel-ceramim; felly darostyngwyd yr Ammoniaid gan yr Israeliaid.

34. Pan gyrhaeddodd Jefftha ei gartref yn Mispa, daeth ei ferch allan i'w gyfarfod â thympanau a dawnsiau. Hi oedd ei unig blentyn; nid oedd ganddo fab na merch ar wahân iddi hi.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 11