Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 11:12-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid a dweud, “Beth sydd gennyt yn f'erbyn, dy fod wedi dod i ymosod ar fy ngwlad?”

13. Dywedodd brenin yr Ammoniaid wrth negeswyr Jefftha, “Pan ddaeth Israel i fyny o'r Aifft, meddiannodd fy ngwlad rhwng nentydd Arnon a Jabboc, hyd at yr Iorddonen; felly dyro hi'n ôl yn awr yn heddychol.”

14. Anfonodd Jefftha negeswyr eto at frenin yr Ammoniaid

15. i ddweud wrtho, “Dyma a ddywed Jefftha: ‘Ni chymerodd Israel dir Moab na thir yr Ammoniaid;

16. oherwydd pan ddaethant i fyny o'r Aifft, fe aeth Israel trwy'r anialwch hyd at y Môr Coch nes dod i Cades.

17. Yna fe anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom a dweud, “Gad imi fynd trwy dy dir di”; ond ni wrandawai brenin Edom. Wedyn anfonwyd at frenin Moab, ac nid oedd ef yn fodlon; felly arhosodd Israel yn Cades.

18. Yna aethant drwy'r anialwch i fynd heibio i dir Edom a thir Moab o'r tu dwyrain i wlad Moab, a gwersyllu y tu hwnt i nant Arnon, heb groesi terfyn Moab, oherwydd nant Arnon yw terfyn Moab.

19. Anfonodd Israel negeswyr hefyd at frenin yr Amoriaid, Sihon brenin Hesbon, a dweud wrtho, “Gad imi groesi dy dir i'm lle fy hun.”

20. Eto nid ymddiriedai Sihon yn Israel, iddi groesi ei ffin, ond casglodd ei holl fyddin a gwersyllu yn Jahas ac ymladd yn erbyn Israel.

21. Rhoddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, Sihon a'i holl fyddin yn llaw Israel, ac fe'u lladdwyd; a meddiannodd Israel holl dir yr Amoriaid oedd yn byw yn yr ardal honno.

22. Daethant i feddiannu holl derfynau'r Amoriaid o nant Arnon hyd nant Jabboc, ac o'r anialwch hyd yr Iorddonen.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 11