Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 1:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi marw Josua, gofynnodd yr Israeliaid i'r ARGLWYDD, “Pwy ohonom sydd i fynd yn gyntaf yn erbyn y Canaaneaid i ymladd â hwy?”

2. Atebodd yr ARGLWYDD, “Jwda sydd i fynd; yr wyf yn rhoi'r wlad yn ei law ef.”

3. Dywedodd Jwda wrth ei frawd Simeon, “Tyrd gyda mi i'm tiriogaeth, er mwyn inni ymladd yn erbyn y Canaaneaid; ac mi ddof finnau gyda thi i'th diriogaeth di.” Ac fe aeth Simeon gydag ef.

4. Wedi i Jwda fynd i fyny, rhoddodd yr ARGLWYDD y Canaaneaid a'r Peresiaid yn eu llaw, a lladdasant ddeng mil ohonynt yn Besec.

5. Yno cawsant Adoni Besec ac ymladd ag ef, a lladd y Canaaneaid a'r Peresiaid.

6. Ffodd Adoni Besec, ac erlidiasant ar ei ôl a'i ddal, a thorri bodiau ei ddwylo a'i draed i ffwrdd.

7. Ac meddai Adoni Besec, “Bu deg a thrigain o frenhinoedd â bodiau eu dwylo a'u traed wedi eu torri iffwrdd yn lloffa am fwyd dan fy mwrdd; fel y gwneuthum i, felly y talodd Duw imi.” Daethant ag ef i Jerwsalem, a bu farw yno.

8. Ymladdodd y Jwdeaid yn erbyn Jerwsalem a'i hennill, ac yna lladd y trigolion â'r cleddyf a llosgi'r ddinas.

9. Wedyn aeth y Jwdeaid i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn byw yn y mynydd-dir a hefyd yn y Negef a'r Seffela.

10. Aeth y Jwdeaid i ymladd â'r Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron—Ciriath-arba oedd enw Hebron gynt—a lladdasant Sesai, Ahiman a Talmai.

11. Oddi yno aethant yn erbyn trigolion Debir—Ciriath-seffer oedd enw Debir gynt.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 1