Hen Destament

Testament Newydd

Amos 9:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd—ef sy'n cyffwrdd â'r ddaear, a hithau'n toddi,a'i holl drigolion yn galaru;bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil,ac yn gostwng fel afon yr Aifft;

6. ef sy'n codi ei breswylfeydd yn y nefoeddac yn sylfaenu ei gromen ar y ddaear;ef sy'n galw ar ddyfroedd y môrac yn eu tywallt dros y tir;yr ARGLWYDD yw ei enw.

7. “Onid ydych chwi fel pobl Ethiopia i mi,O bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD.“Oni ddygais Israel i fyny o'r Aifft,a'r Philistiaid o Cafftora'r Syriaid o Cir?

8. Wele, y mae llygaid yr Arglwydd DDUWar y deyrnas bechadurus;fe'i dinistriaf oddi ar wyneb y ddaear;eto ni ddinistriaf dŷ Jacob yn llwyr,” medd yr ARGLWYDD.

9. “Wele, yr wyf yn gorchymyn,ac ysgydwaf dŷ Israel ymhlith yr holl genhedloeddfel ysgwyd gogr,heb i'r un gronyn syrthio i'r ddaear.

10. Lleddir holl bechaduriaid fy mhobl â'r cleddyf,y rhai sy'n dweud, ‘Ni chyffwrdd dinistr â ni, na dod yn agos atom.’ ”

11. “Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd;trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion,a'i ailadeiladu fel yn y dyddiau gynt,

12. fel y gallant goncro gweddill Edoma'r holl genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,”medd yr ARGLWYDD. Ef a wna hyn.

13. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,“pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi,a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had;bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd,a phob bryn yn llifo ohono.

14. Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel,ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt;plannant winllannoedd ac yfed eu gwin,palant erddi a bwyta'u cynnyrch.

15. Fe'u plannaf yn eu gwlad,ac ni ddiwreiddir hwy byth etoo'r tir a rois iddynt,”medd yr ARGLWYDD dy Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 9