Hen Destament

Testament Newydd

Amos 9:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Pe baent yn ymguddio ar ben Carmel,fe chwiliwn amdanynt, a'u cymryd oddi yno;pe baent yn cuddio o'm golwg yng ngwaelod y môr,byddwn yn gorchymyn i'r ddraig eu brathu yno.

4. Pe bai eu gelynion yn eu dwyn ymaith i gaethglud,fe rown orchymyn i'm cleddyf eu lladd yno;cadwaf fy ngolwg arnynt,er drwg ac nid er da.”

5. Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd—ef sy'n cyffwrdd â'r ddaear, a hithau'n toddi,a'i holl drigolion yn galaru;bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil,ac yn gostwng fel afon yr Aifft;

6. ef sy'n codi ei breswylfeydd yn y nefoeddac yn sylfaenu ei gromen ar y ddaear;ef sy'n galw ar ddyfroedd y môrac yn eu tywallt dros y tir;yr ARGLWYDD yw ei enw.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 9