Hen Destament

Testament Newydd

Amos 9:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,“pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi,a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had;bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd,a phob bryn yn llifo ohono.

14. Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel,ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt;plannant winllannoedd ac yfed eu gwin,palant erddi a bwyta'u cynnyrch.

15. Fe'u plannaf yn eu gwlad,ac ni ddiwreiddir hwy byth etoo'r tir a rois iddynt,”medd yr ARGLWYDD dy Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 9