Hen Destament

Testament Newydd

Amos 9:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. “Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd;trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion,a'i ailadeiladu fel yn y dyddiau gynt,

12. fel y gallant goncro gweddill Edoma'r holl genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,”medd yr ARGLWYDD. Ef a wna hyn.

13. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,“pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi,a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had;bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd,a phob bryn yn llifo ohono.

14. Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel,ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt;plannant winllannoedd ac yfed eu gwin,palant erddi a bwyta'u cynnyrch.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 9