Hen Destament

Testament Newydd

Amos 9:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw'r allor, ac yn dweud,“Taro gapan y drws nes i'r rhiniogau ysgwyd,a maluria hwy ar eu pennau i gyd;y rhai a adewir, fe'u lladdaf â'r cleddyf;ni ffy yr un ohonynt ymaith,ni ddianc yr un ohonynt.

2. Pe baent yn cloddio hyd at Sheol,fe dynnai fy llaw hwy oddi yno;pe baent yn dringo i'r nefoedd,fe'u dygwn i lawr oddi yno.

3. Pe baent yn ymguddio ar ben Carmel,fe chwiliwn amdanynt, a'u cymryd oddi yno;pe baent yn cuddio o'm golwg yng ngwaelod y môr,byddwn yn gorchymyn i'r ddraig eu brathu yno.

4. Pe bai eu gelynion yn eu dwyn ymaith i gaethglud,fe rown orchymyn i'm cleddyf eu lladd yno;cadwaf fy ngolwg arnynt,er drwg ac nid er da.”

5. Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd—ef sy'n cyffwrdd â'r ddaear, a hithau'n toddi,a'i holl drigolion yn galaru;bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil,ac yn gostwng fel afon yr Aifft;

6. ef sy'n codi ei breswylfeydd yn y nefoeddac yn sylfaenu ei gromen ar y ddaear;ef sy'n galw ar ddyfroedd y môrac yn eu tywallt dros y tir;yr ARGLWYDD yw ei enw.

7. “Onid ydych chwi fel pobl Ethiopia i mi,O bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD.“Oni ddygais Israel i fyny o'r Aifft,a'r Philistiaid o Cafftora'r Syriaid o Cir?

Darllenwch bennod gyflawn Amos 9