1. Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma fasgedaid o ffrwythau haf,
2. a gofynnodd ef, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Basgedaid o ffrwythau haf.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,“Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel;nid af heibio iddynt byth eto.
3. Bydd cantorion y deml yn galarnadu yn y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW,“bod y cyrff mor niferusfel y teflir hwy'n ddisôn ym mhob man.”
4. Gwrandewch hyn, chwi sy'n sathru'r anghenusac yn difa tlodion y wlad,
5. ac yn dweud, “Pa bryd y mae'r newydd-loer yn diweddu,inni gael gwerthu ŷd;a'r saboth, inni roi'r grawn ar werth,inni leihau'r effa a thrymhau'r sicl,inni gael twyllo â chloriannau anghywir,
6. inni gael prynu'r tlawd am ariana'r anghenus am bâr o sandalau,a gwerthu ysgubion yr ŷd?”
7. Tyngodd yr ARGLWYDD i falchder Jacob,“Ni allaf fyth anghofio'u gweithredoedd.
8. Onid am hyn y cryna'r ddaearnes y galara'i holl drigolion,ac y cwyd i gyd fel y Neil,a dygyfor a gostwng fel afon yr Aifft?”