Hen Destament

Testament Newydd

Amos 6:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwae y rhai sydd mewn esmwythyd yn Seion,y rhai sy'n teimlo'n ddiogel ar Fynydd Samaria,gwŷr mawr y genedl bennaf,y rhai y mae tŷ Israel yn troi atynt.

2. Ewch trosodd i Calne ac edrychwch;oddi yno ewch i Hamath fawr,ac yna i lawr i Gath y Philistiaid.A ydynt yn well na'ch teyrnasoedd chwi?A yw eu tiriogaeth yn fwy na'r eiddoch chwi?

3. Chwi, sy'n ceisio pellhau'r dydd drwg,ond yn dwyn teyrnasiad trais yn nes;

4. yn gorwedd ar welyau iforiac yn ymestyn ar eich matresi;yn gwledda ar ŵyn o'r ddiadellac ar y lloi pasgedig;

5. yn canu maswedd i sain y nabl,ac fel Dafydd yn dyfeisio offerynnau cerdd;

6. yn yfed gwin fesul powlennaid,ac yn eich iro'ch hunain â'r olew gorau;ond heb boeni am ddinistr Joseff!

7. Felly, yn awr, chwi fydd y cyntaf i'r gaethglud;derfydd am rialtwch y rhai sy'n gorweddian.

8. Tyngodd yr Arglwydd DDUW iddo'i hun;medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd:“Yr wyf yn ffieiddio balchder Jacob,ac yn casáu ei geyrydd;gadawaf y ddinas a phopeth sydd ynddi.”

9. Os gadewir deg o bobl mewn un tŷ, byddant farw.

10. Pan ddaw perthynas, sydd am losgi un ohonynt, yno i'w godi a dwyn ei gorff allan o'r tŷ, a dweud wrth un sydd yng nghanol y tŷ, “A oes rhywun gyda thi?” fe ddywed yntau, “Nac oes.” Yna fe ddywed, “Taw! Nid yw enw'r ARGLWYDD i'w grybwyll.”

Darllenwch bennod gyflawn Amos 6