Hen Destament

Testament Newydd

Amos 5:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. peidiwch â cheisio Bethel,nac ymweld â Gilgal,na theithio i Beerseba;oherwydd yn wir fe gaethgludir Gilgal,ac ni bydd Bethel yn ddim.”

6. Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byddwch fyw—rhag iddo ruthro fel tân drwy dŷ Joseffa'i ddifa, heb neb i'w ddiffodd ym Methel—

7. chwi sy'n troi barn yn wermod,ac yn taflu cyfiawnder i'r llawr.

8. Ef a wnaeth Pleiades ac Orion;ef sy'n troi tywyllwch yn fore,ac yn tywyllu'r dydd yn nos.Ef sy'n galw ar ddyfroedd y môr,ac yn eu tywallt ar wyneb y tir;yr ARGLWYDD yw ei enw.

9. Gwna i ddinistr fflachio ar y cryf,a daw distryw ar y gaer.

10. Y maent yn casáu'r un a wna farn yn y porth,ac yn ffieiddio'r sawl a lefara'n onest.

11. Felly, am ichwi sathru'r tlawd,a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith—er ichwi godi tai o gerrig nadd,ni chewch fyw ynddynt;er ichwi blannu gwinllannoedd hyfryd,ni chewch yfed eu gwin.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 5