Hen Destament

Testament Newydd

Amos 5:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Er ichwi aberthu imi boethoffrymau a bwydoffrymau,ni allaf eu derbyn;ac nid edrychaf ar eich heddoffrymau o'ch pasgedigion.

23. Ewch â sŵn eich caneuon oddi wrthyf;ni wrandawaf ar gainc eich telynau.

24. Ond llifed barn fel dyfroedda chyfiawnder fel afon gref.

25. “A ddaethoch ag aberthau ac offrymau i mi yn yr anialwch am ddeugain mlynedd, dŷ Israel?

26. Fe gludwch ymaith eich delwau, a wnaethoch i chwi—eich duw Saccuth, a Caiwan eich seren-dduw—

27. oherwydd caethgludaf chwi y tu hwnt i Ddamascus,” medd yr ARGLWYDD; Duw'r Lluoedd yw ei enw.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 5