Hen Destament

Testament Newydd

Amos 5:14-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni,fel y byddwch fywac y bydd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, gyda chwi,fel yr ydych yn honni ei fod.

15. Casewch ddrygioni, carwch ddaioni,gofalwch am farn yn y porth;efallai y trugarha'r ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd,wrth weddill Joseff.

16. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, yr Arglwydd:“Ym mhob sgwâr fe fydd wylo,ym mhob stryd fe ddywedant, ‘Och! Och!’Galwant ar y llafurwr i alaruac ar y galarwyr i gwynfan.

17. Bydd wylofain ym mhob gwinllan,oherwydd mi af trwy dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.

18. Gwae y rhai sy'n dyheu am ddydd yr ARGLWYDD!Beth fydd dydd yr ARGLWYDD i chwi?Tywyllwch fydd, nid goleuni;

19. fel pe bai dyn yn dianc rhag llew,ac arth yn ei gyfarfod;neu'n cyrraedd y tŷ ac yn rhoi ei law ar y pared,a neidr yn ei frathu.

20. Onid tywyllwch fydd dydd yr ARGLWYDD, ac nid goleuni;caddug, heb lygedyn golau ynddo?

21. “Yr wyf yn casáu, yr wyf yn ffieiddio eich gwyliau;nid oes imi bleser yn eich cymanfaoedd.

22. Er ichwi aberthu imi boethoffrymau a bwydoffrymau,ni allaf eu derbyn;ac nid edrychaf ar eich heddoffrymau o'ch pasgedigion.

23. Ewch â sŵn eich caneuon oddi wrthyf;ni wrandawaf ar gainc eich telynau.

24. Ond llifed barn fel dyfroedda chyfiawnder fel afon gref.

25. “A ddaethoch ag aberthau ac offrymau i mi yn yr anialwch am ddeugain mlynedd, dŷ Israel?

Darllenwch bennod gyflawn Amos 5