Hen Destament

Testament Newydd

Amos 2:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. am eu bod yn sathru pen y tlawd i'r llwchac yn ystumio ffordd y gorthrymedig;am fod dyn a'i dad yn mynd at yr un llances,fel bod halogi ar fy enw sanctaidd;

8. am eu bod yn gorwedd ar ddillad gwystlyn ymyl pob allor;am eu bod yn yfed gwin y ddirwyyn nhÅ· eu Duw.

9. “Eto, myfi a ddinistriodd yr Amoriad o'u blaenau,a'i uchder fel uchder cedrwydda'i gryfder fel y derw;dinistriais ei ffrwyth oddi arnoa'i wreiddiau oddi tano.

10. Myfi hefyd a'ch dygodd o'r Aifft,a'ch arwain am ddeugain mlynedd yn yr anialwch,i feddiannu gwlad yr Amoriad.

11. Codais rai o'ch meibion yn broffwydi,a rhai o'ch llanciau yn Nasareaid.Onid fel hyn y bu, bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD.

12. “Ond gwnaethoch i'r Nasareaid yfed gwin,a rhoesoch orchymyn i'r proffwydi, ‘Peidiwch â phroffwydo.’

13. “Wele, yr wyf am eich gwasgu i lawr,fel y mae trol lawn ysgubau yn gwasgu.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 2