13. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau'r Ammoniaid,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt rwygo gwragedd beichiog Gilead,er mwyn ehangu eu terfynau,
14. cyneuaf dân ar fur Rabba,ac fe ddifa ei cheyryddâ bloedd ar ddydd brwydr,a chorwynt ar ddydd tymestl.
15. A chaethgludir eu brenin,ef a'i swyddogion i'w ganlyn,” medd yr ARGLWYDD.