Hen Destament

Testament Newydd

Amos 1:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Geiriau Amos, un o fugeiliaid Tecoa, a gafodd weledigaeth am Israel yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas brenin Israel, ddwy flynedd cyn y daeargryn.

2. Dywedodd,“Rhua'r ARGLWYDD o Seion,a chwyd ei lef o Jerwsalem;galara porfeydd y bugeiliaid,a gwywa pen Carmel.”

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Damascus,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt ddyrnu Gileadâ llusg-ddyrnwyr haearn,

4. anfonaf dân ar dŷ Hasael,ac fe ddifa geyrydd Ben-hadad.

5. Drylliaf farrau pyrth Damascus,a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen,a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden;a chaethgludir pobl Syria i Cir,” medd yr ARGLWYDD.

6. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Gasa,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfani'w caethiwo yn Edom,

7. anfonaf dân ar fur Gasa,ac fe ddifa ei cheyrydd.

8. Torraf ymaith y trigolion o Asdod,a pherchen y deyrnwialen o Ascalon;trof fy llaw yn erbyn Ecron,a difodir gweddill y Philistiaid,” medd yr Arglwydd DDUW.

9. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Tyrus,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i Edom,ac anghofio cyfamod brawdol,

10. anfonaf dân ar fur Tyrus,ac fe ddifa ei cheyrydd.”

11. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Edom,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddo ymlid ei frawd â chleddyf,a mygu ei drugaredd,a bod ei lid yn rhwygo'n barhausa'i ddigofaint yn dal am byth,

12. anfonaf dân ar Teman,ac fe ddifa geyrydd Bosra.”

13. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau'r Ammoniaid,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt rwygo gwragedd beichiog Gilead,er mwyn ehangu eu terfynau,

Darllenwch bennod gyflawn Amos 1