Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 8:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Yr oedd Dafydd yn teyrnasu dros Israel gyfan, ac yn gweinyddu barn a chyfiawnder i'w holl bobl.

16. Joab fab Serfia oedd dros y fyddin, a Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur.

17. Sadoc fab Ahitub, ac Ahimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid, a Seraia yn ysgrifennydd.

18. Benaia fab Jehoiada oedd dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid, ac yr oedd meibion Dafydd yn offeiriaid.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 8